Annwyl Lynne
Deiseb P-05-821 Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr
Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb uchod, a gyflwynwyd gan UNSAIN Castell Nedd Port Talbot, ddiwethaf yn ein cyfarfod ar 25 Medi.
Yn y cyfarfod, cytunodd yr Aelodau y dylwn ysgrifennu atoch i rannu manylion y ddeiseb hon cyn i chi graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb, ac ystyriaeth y Pwyllgor ohoni hyd yma, ar gael yma:
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=22257&Opt=0
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i rannu â'r deisebwyr gopi o'ch adroddiad ar y Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig.
Cysylltwch â'r tîm clercio yn SeneddDeisebau@cynulliad.cymru os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Yn gywir
David J Rowlands AC
Cadeirydd